Eisteddfod Caerdydd
Os hoffech chi’n helpu ni i gynnal eisteddfod leol yng Nghaerdydd, byddem yn gwerthfaworgi unrhyw gyfraniad.
Os yw eich rhodd i noddi cystadleuaeth benodol, cysylltwch â ni drwy e-bostio [email redacted]ru. Mae’r rhestr testunau ar gael yn www.eisteddfodcaerdydd.cymru
Fel arall bydd eich nawdd yn cael ei ddefnyddio i dalu costau cyffredinol rhedeg yr eisteddfod, gan gynnwys talu am logi’r lleoliad, beirniaid, gwobrau cyffredinol ac yswiriant.
Cefndir
Ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, cafodd sawl person y syniad o gynnal
eisteddfod leol yng Nghaerdydd. Felly dyma grŵp o ni’n dod at ein gilydd i drefnu’r eisteddfod.
Erbyn hyn ry’n ni wedi cael nawdd gan Tŷ Cerdd a rhoddion gan amryw gorau a sefydliadaulleol. Ond mae dal llawer o ffordd i fynd i ni allu sicrhau eisteddfod lwyddiannus yn 2020, aci’r dyfodol.
Dyma lle gallwch chi helpu. Drwy wneud cyfraniad bychan, a rhannu’r dudalen hon gyda ffrindiau a theulu, gallwn ni godi digon o arian i sicrhau cynnal eisteddfod lwyddiannus. Y cwblfydd ar ôl wedyn fydd i chi ddod i gystadlu neu gefnogi ar y noson!
Felly os allwch chi sbario ychydig bunnoedd, gyda’n gilydd fe allwn ni sicrhau eisteddfod leol i Gaerdydd.
Diolch
Pwyllgor Eisteddfod Caerdydd