Main fundraiser photo

Help Aberdyfi Search and Rescue Team buy essential new kit

Help Keep Aberdyfi Search and Rescue Team Dry and Ready to Save Lives [Scroll Down for Welsh]

Our Mission: Your Safety in the Great Outdoors
We are Aberdyfi Search and Rescue Team (ASART), a dedicated group of volunteers committed to keeping you safe in the breathtaking wilderness of the southern reaches of Eryri National Park and mid-Wales. From the rugged peaks of Cadair Idris to the sweeping coastlines of Cardigan Bay, we're on call 24/7, 365 days a year, ready to assist when people are in need.

The Challenge: Battling the Elements to Save Lives
Imagine being lost in the mountains, injured and alone, as storm clouds gather and temperatures plummet. Now picture a team of rescuers battling through howling winds and driving rain to find you.

That's us – Aberdyfi Search and Rescue Team (ASART) – and we need your help to stay dry and effective in these challenging conditions.

In 2023, we responded to 53 callouts, totalling 1266 volunteer hours. We assist everyone from local dog walkers, school groups on DoE, and international tourists, to mountain bikers, hikers and climbers. We've dealt with everything from sprained ankles to medical emergencies, life-threatening injuries, and fatalities, often in the most treacherous weather conditions imaginable.

In 2024, we’ve already been called out 20 times and our busiest season hasn’t even begun.

Our Need: Essential Waterproof Gear
Here's the reality: Mountain rescue is not always a fair-weather activity. When conditions are at their worst, that's often when people need us most. Our current waterproof gear is thicker winter kit and as we all know, summer in Wales can be very wet!

Our goal is to raise £25,000 by December 31st, 2024. Your support ensures we can equip our team with the high-quality, rescue-grade waterproof jackets and trousers they need to operate comfortably in all seasons.

This gear is not just about comfort – it's about safety and effectiveness. When we're dry, we can focus entirely on the rescue at hand, keeping both ourselves and our casualties safe.

Why Your Support Matters
ASART is 100% volunteer-run and 100% funded by donations. We receive no direct government funding. Every pound you donate goes directly towards purchasing new essential kit for the team.

Your contribution, no matter how small, makes all the difference to our ability to serve our community and visitors to our beautiful region.

Our Promise to You
We pledge to use every penny you donate wisely.

We will buy the protective equipment our team needs to be there whenever we're needed, whatever the weather.

We'll keep you updated on our progress, share stories from our rescues (while respecting privacy), and show you exactly how your donations are making a difference.

Join Our Rescue Family
By supporting this campaign, you become part of our extended rescue family. Your generosity ensures that we can continue to be there for those in need, come rain or shine, day or night.

Remember, we're aiming to reach our goal by December 31st, 2024.

Please donate now and share this campaign with your friends and family.

Thank you for your support. It means the world to us and to those we serve.

Stay safe out there,
Aberdyfi Search and Rescue Team


Helpu Tîm Chwilio ac Achub Aberdyfi i brynu offer newydd hanfodol

Helpwch i Gadw Tîm Chwilio ac Achub Aberdyfi’n Sych ac yn Barod i Achub Bywydau

Ein Cenhadaeth: Eich Diogelwch Chi yn yr Awyr Agored
Tîm Chwilio ac Achub Aberdyfi (ASART) ydyn ni, grŵp ymroddgar o wirfoddolwyr sy’n ymroddedig i’ch cadw chi’n ddiogel ar diroedd gwyllt hardd rhannau deheuol Parc Cenedlaethol Eryri a chanolbarth Cymru. O lethrau garw Cadair Idris i arfordir godidog Bae Ceredigion, rydyn ni ar alwad 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn, yn barod i helpu pobl mewn angen.

Ein Her: Achub Bywydau ym Mhob Tywydd
Dychmygwch fod ar goll yn y mynyddoedd, wedi’ch anafu ac ar eich pen eich hun, wrth i gymylau storm ymgasglu a'r awyr o’ch cwmpas yn oeri. Nawr dychmygwch dîm o achubwyr yn brwydro drwy wyntoedd cryfion a glaw trwm i ddod o hyd i chi.

Ni yw’r achubwyr hynny – Tîm Chwilio ac Achub Aberdyfi (ASART) – ac mae angen eich help arnom ni i gadw’n sych a gweithio’n effeithiol dan yr amodau heriol hyn.

Yn 2023, fe wnaethom ymateb i 53 o alwadau, sef cyfanswm o 1266 o oriau gwirfoddolwyr. Rydyn ni’n helpu pawb, o bobl leol sy’n mynd â’u cŵn am dro, grwpiau ysgol ar alldeithiau gwobr Dug Caeredin ac ymwelwyr rhyngwladol, i feicwyr mynydd, cerddwyr a dringwyr. Rydyn ni wedi delio â galwadau o bob math; o bobl wedi troi eu ffêr, i argyfyngau meddygol, anafiadau sy’n peryglu bywyd, a marwolaethau, a hynny’n aml mewn tywydd ofnadwy.

Yn 2024, rydyn ni eisoes wedi cael ein galw allan 20 o weithiau a dydi’r tymor prysuraf heb ddechrau eto.

Ein Hangen: Offer Dal Dŵr Hanfodol
Dyma’r realiti: Nid yw achub mynydd bob amser yn weithgaredd tywydd braf. Yn aml iawn, pan fo’r tywydd ar ei waethaf y mae ar bobl fwyaf o’n hangen ni. Offer gaeaf trwchus yw ein hoffer dal dŵr presennol, ac fel y gwyddom, gall yr haf fod yn dymor gwlyb iawn yng Nghymru!

Ein nod yw codi £25,000 erbyn 31ain Rhagfyr, 2024.
Mae eich cefnogaeth yn sicrhau ein bod yn gallu darparu’r siacedi a throwsusau dal dŵr gwydn o’r safon iawn i waith achub, er mwyn iddynt gael gweithio’n gyfforddus gydol y flwyddyn.

Nid cysur yn unig yw pwrpas yr offer hwn – mae’n ein gwneud yn fwy diogel ac effeithiol. Os ydyn ni’n sych, gallwn ganolbwyntio’n llwyr ar ein gwaith achub, gan gadw ein hunain a’n cleifion yn ddiogel.

Pam mae eich Cefnogaeth chi’n Bwysig
Caiff ASART ei gynnal 100% gan wirfoddolwyr ac fe’i hariennir 100% gan gyfraniadau. Dydyn ni ddim yn derbyn unrhyw arian yn uniongyrchol gan y llywodraeth. Mae pob ceiniog rydych chi’n ei chyfrannu’n mynd yn uniongyrchol i brynu offer hanfodol newydd i’r tîm.

Mae eich cyfraniad chi, waeth pa mor fach, am wneud gwahaniaeth mawr i’n gallu i
wasanaethu ein cymuned ac ymwelwyr ein hardal hardd.

Ein Haddewid i Chi
Rydyn ni’n addo defnyddio pob ceiniog a gyfrannwch chi’n ddoeth.

Byddwn yn prynu’r offer y mae ei angen ar ein tîm i fod yno pan bynnag fo’n hangen, beth bynnag fo’r tywydd.

Byddwn yn gadael i chi wybod am ein cynnydd, yn rhannu straeon o’n galwadau achub (gan barchu preifatrwydd), ac yn dangos i chi’n union sut mae eich cyfraniadau’n gwneud gwahaniaeth.

Ymunwch â’n Teulu Achub
O gefnogi’r ymgyrch hwn, rydych chi’n dod yn rhan o’n teulu achub estynedig. Mae eich haelioni’n sicrhau y gallwn barhau i fod yno i’r rhai sydd ein hangen, boed law neu hindda, ddydd a nos.

Cofiwch, ein nod yw cyrraedd ein targed erbyn 31ain Rhagfyr, 2024.

Cyfrannwch nawr a rhannwch yr ymgyrch hwn gyda’ch ffrindiau a’ch teulu.
Diolch i chi am eich cefnogaeth. Mae’n meddwl y byd i ni ac i’r bobl rydyn ni’n eu helpu.

Byddwch ddiogel yn yr awyr agored,
Tîm Chwilio ac Achub Aberdyfi
Donate

Donations 

  • Juliet Edwards
    • £100
    • 2 d
  • Stephen Barkley
    • £10
    • 2 d
  • Ras y Gadair Committee
    • £1,000 (Offline)
    • 3 d
  • Cath Severn
    • £20
    • 4 d
  • Debbie Ashton
    • £20
    • 5 d
Donate

Fundraising team: Aberdyfi Search and Rescue Team (2)

Matt Young
Organizer
Aberdyfi Search and Rescue Team
Beneficiary
Jemma Barratt
Team member

Your easy, powerful, and trusted home for help

  • Easy

    Donate quickly and easily

  • Powerful

    Send help right to the people and causes you care about

  • Trusted

    Our Trust & Safety team works around the clock to keep our community safe