CODI CERFLUN O TWM CARNABWTH STATUE FUND
Donation protected
Please scroll down for English
Rydym wrthi’n codi £10,000 dechreuol er mwyn bwrw ati i godi cerflun o Twm Carnabwth.
Mae Cymdeithas Cwm Cerwyn am godi’r arian er mwyn comisiynu cerflunydd i greu cerflun efydd o arweinydd cyntaf Merched Becca.
Bydd y cerflun yn adlewyrchu cyflwr gwerin y Preselau yng nghanol y 19ganrif ac yn mawrygu arwriaeth Thomas Rees yn 1839 yn arwain y fintai gyntaf i ddinistrio tollborth Efail-wen, ar y ffin rhwng Sir Gâr a Sir Benfro. Gwnaed hynny deirgwaith yn ystod yr haf hwnnw a thrwy hynny waredu’r hyn a ystyrid yn symbol o ormes ar drigolion y fro wrth iddyn nhw wynebu tlodi affwysol.
Er ei fod yn ymladdwr ffyrnig yn ffeiriau’r cyfnod doedd Twm Carnabwth ddim o reidrwydd naill ai’n Adonis na Tharzan o ddyn ond yn werinwr oedd yn cario pryderon ei bobl ar ei ysgwyddau. Bydd y cerflun terfynol yn llawn dychymyg a dyfeisgarwch.
Gosodir y cerflun wrth ymyl Caffi Beca ym mhentref Efail-wen ar y ffordd A478 o Arberth i Aberteifi yn wynebu bryniau’r Preseli. Rhagwelir y bydd yn ei le erbyn mis Mai 2025 pan fydd y caffi wedi’i adnewyddu hefyd.
Comisiynir y cerflun gan Gymdeithas Cwm Cerwyn, sefydliad sy’n hybu treftadaeth a lles ar ddwy ochr y ddwy sir. Foel Cwm Cerwyn yw man uchelaf y Preselau uwchlaw’r bwthyn unnos oedd yn gartref i Twm a’i deulu – Carnabwth.
Mae Cymdeithas Cwm Cerwyn am fawrygu arwyr y fro ac yn arbennig y rheiny a gyfrannodd at wella ansawdd bywyd yn yr ardal. Un o’r rheiny oedd Twm Carnabwth.
Am y bydd wedi’i osod wrth ymyl caffi adnabyddus Caffi Beca fe fydd y cerflun o fewn fawr o dro yn dirnod amlwg i’w weld gan drigolion lleol yn ogystal â heidiau o ymwelwyr. Bydd hynny yn codi ymwybyddiaeth ynghylch dechreuadau mudiad y Becca cyn iddo amlygu ei hun ar draws de a chanolbarth Cymru.
Bydd eich cyfraniad yn cyfrannu tuag at gomisiynu cerflunydd proffesiynol i ddylunio a chreu cerflun cyflawn. Fe gynhelir cyfres o achlysuron cymunedol hefyd i gofio am un o’r gwrthryfeloedd pwysicaf yng Nghymru yn wyneb gormes ac adfyd.
Rydym yn gofyn am eich cymorth i godi £10,000 yn y man cyntaf. Bydd hyn yn caniatáu i ni gomisiynu swyddog celf lleol i arolygu’r gwaith o ddatblygu cerflun, cynnal rhaglen addysgol a gofyn i gerflunydd proffesiynol i greu model manwl o’r cerflun arfaethedig. Wedyn gobeithir denu cyllid wrth nifer o gyrff i fwrw ati i gastio a gosod y cerflun.
Cyfrannwch faint bynnag y medrwch a dywedwch wrth eich ffrindiau a’ch teulu i ystyried gwneud yr un modd.
Gyda’ch cymorth chi gwnawn yn siŵr y bydd y cof am Twm Carnabwth a Gwrthryfel y Becca yn para yn berthnasol heddiw ac i genedlaethau’r dyfodol.
Diolch i chi am gefnogi ymdrechion Cymdeithas Cwm Cerwyn.
We are raising an initial £10,000 to commission a bronze figurative statue of Twm Carnabwth.
Cymdeithas Cwm Cerwyn are seeking funds to commission a sculptor to create a life size figurative statue of Twm Carnabwth of the Rebecca Riots fame.
The statue will reflect the life and times of the Preselau peasants in the mid 19th century and the heroism of Thomas Rees. He led the initial uprising in 1839, when the Efail-wen tollgate on the Pembrokeshire / Carmarthenshire border was destroyed on three occasions. By doing so a symbol of oppression upon ordinary folk facing severe hardship was removed.
Though a noted pugilist in the fairs of his time Twm was not necessarily an Adonis or a Tarzan of a man but a farm labourer who carried the woes of his people on his shoulders. The finished statue will be the result of imagination and invention.
The statue will be sited alongside Caffi Beca in the village of Efail-wen on the A478 road from Narberth to Cardigan facing the Preseli hills. It is envisaged it will be in place by May 2025 to coincide with the renovation plans for the cafe itself.
The statue is being commissioned by Cymdeithas Cwm Cerwyn, a heritage wellbeing organisation that straddles both sides of the county divide. The name Cwm Cerwyn refers to the highest point of the Preselau below which Carnabwth, the one night cottage that was home to Twm and his family, is located.
Cymdeithas Cwm Cerwyn is intent on commemorating its local heroes especially those who made a distinct difference to the quality of life in the area. Twm Carnabwth was one of those.
Being situated alongside the well-established Caffi Beca the sculpture will soon become a prominent landmark to be seen by local people as well as the swathes of visitors. Hence the profile of the beginning of the Rebecca movement which later spread across south and mid-Wales will be highlighted.
Your donation will contribute to the commissioning of a professional sculptor to design and make a permanent life-size figurative statue of Twm Carnabwth. It will celebrate one of Wales’ most significant uprisings in the face of oppression and adversity.
We are seeking your help to raise £10,000 in the first instance. This will allow us to commission a local art producer to oversee the development of Twm Carnabwth statue, to establish an educational programme and to engage a professional sculptor to create a detailed model of the proposed statue. Funding for the casting and installing will then hopefully be provided by various agencies.
Please donate what you can and persuade your friends and family to do the same.
With your help we will ensure the legacy of Twm Carnabwth and the Rebecca Riots remains as relevant today and continues to inform future generations for years to come.
Thank you from Cymdeithas Cwm Cerwyn.
Fundraising team (2)
Cymdeithas Cwm Cerwyn
Organizer
Wales
Eurfyl Lewis
Team member